Gorchymyn drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan baragraff 14(5)(b) o Atodlen 3 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, i’w gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
OFFERYNNAU sTATUDOL Cymru DRAFFT
2020 Rhif (Cy. )
Y DIWYDIANT DŴR, CYMRU
Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) (Diwygio) 2020
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Gorchymyn)
Mae’r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/1182 (Cy. 241)) er mwyn darparu ar gyfer dirwy ddiderfyn ar gyfer y troseddau a nodir yn erthygl 21 o’r Gorchymyn hwnnw.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Gorchymyn hwn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Gorchymyn hwn.
Gorchymyn drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan baragraff 14(5)(b) o Atodlen 3 i Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, i’w gymeradwyo drwy benderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU DRAFFT
2020 Rhif (Cy. )
Y DIWYDIANT DŴR, CYMRU
Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) (Diwygio) 2020
Gwnaed ***
Yn dod i rym drannoeth y diwrnod y’i gwneir
Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 32 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010([1]), a pharagraff 14 o Atodlen 3 iddi, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn.
Yn unol â pharagraff 14(5)(b) o Atodlen 3 i’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddo drwy benderfyniad.
Enwi a chychwyn
1.—(1)(1) Enw’r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Draenio
Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) (Diwygio) 2020.
(2) Daw’r Gorchymyn hwn i rym drannoeth y diwrnod y’i gwneir.
Diwygio Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) 2018
2. Yn erthygl 21 o Orchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) 2018([2]), hepgorer “nad yw’n fwy nag £20,000”.
Enw
Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, un o Weinidogion Cymru
Dyddiad